Mae Cyngor Cymuned Bro Garmon yn gasgliad o bentrefi bach a phentrefannau sef Nebo, Capel Garmon, Melin y Coed a Carmel. Mae ganddo bresept o £4850.
Mae’r Cyngor yn gyfrifol am lain fach o dir yn Nebo sy’n faes parcio bach a man chwarae glaswelltog a blychau blodau tymhorol ym mhob pentref.

Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar yr egwyddorion a nodir gan Lywodraeth Cymru fel a ganlyn:

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Adran 6
Amcan 1: Ymgysylltu a chefnogi cyfranogiad a dealltwriaeth i ymgorffori bioamrywiaeth drwy gydol y broses gwneud penderfyniadau ar bob lefel
Amcan 2: Diogelu rhywogaethau a chynefinoedd o bwys mawr a gwella eu rheolaeth
Amcan 3: Cynyddu gwydnwch ein hamgylchedd naturiol drwy adfer cynefinoedd sydd wedi diraddio a chreu cynefinoedd
Amcan 4: Mynd i’r afael â phwysau allweddol ar rywogaethau a chynefinoedd
Amcan 5: Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro
Amcan 6: Rhoi fframwaith llywodraethu a chefnogaeth ar waith ar gyfer cyflawni
Gweler y ddogfen sy’n manylu ar ein gwaith mewn perthynas â chyflawni amcanion Deddf yr Amgylchedd.

Newyddion

Rhybudd Cyhoeddus - Sedd Gwag

Cyngor Cymuned Bro Garmon – ward Capel Garmon a Melin-y-Coed.

Cynllun Bioamrywiaeth 2026/28

Cynllun Bioamrywiaeth 2026/28 Cyngor Cymuned Bro Garmon

Cwblhau'r Archwiliad 2024 a 2025

Mae’r archwiliad o gyfrifon Bro Garmon ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024 a 2025 wedi’i gwblhau.

Cofnodion Diwetha

Mawrth 2026

Cofnodion Mawrth 2026

Ionawr 2026

Cofnodion Ionawr 2026

Tachwedd 2025

Cofnodion Tachwedd 2025