Dyddiad: 17/11/2025

Presennol; Ifor Thomas, Gareth Beattie, Menna Williams Hywel Williams, Eirian Roberts

Ymddiheuriadau., Dilwyn Roberts, Alun Hughes, Gareth Evans,

Côd Ymddygiad;
Datgan diddordeb mewn unrhyw un o eitemau yr agenda. neb

Croesawyd Dewi Garmon bawb i’r cyfarfod

Cofnodion;

Darllenwyd y cofnodion a’i cael yn gywir, Ifor yn cynnig, Hywel yn cefnogi.

Materion yn codi o’r cofnodion

Gan nad oedd neb yn dangos diddordeb mewn bod yn aelod o’r Cyngor Cymuned gofyn i Mary Williams Capel Garmon os byddai diddordeb ganddi
Dal dim arwydd ym maes parcio Tydddyn Du i ddweud nad oes parcio dros nos yno
Arwydd ffordd yn culhau o’r golwg wrth Cyffdy

Cyllideb

Edrychwyd ar y gyllideb popeth yn ei le.
Talu bil hyfforddiant I Un Llais Cymru

Gohebiaeth

Llythyr wedi dod gan deulu o Lundain sydd yn dod i Gapel Garmon i aros. Maent yn poeni am gyflwr y gofgolofn yn Capel Garmon
Dewi am edrych ar y gwaith a’i wneud Cyngor Plwy i dalu am y gwaith

Materion Eraill

Ffyrdd o amgylch Nant y Rhiw mewn cyflwr gwael iawn Mae yn debyg fod hyn wedi digwydd ar ol torri y coed yno
Twll yn y ffordd o dan Fedw
Dwr yn y ffordd yn tro Tyddyn Du Traen wedi blocio yno
Tyllau yn y ffordd ar y tro wrth Cae Haidd ar tro yn nes am Nebo na Hafod yr Esgob
Mae yna 2 neu 3 twll yn y ffordd rhwng Nebo a Pren Gwyn
Y ffordd o Pren Gwyn am Capel Garmon Dwr dwfn ar y ffordd yno
Dwr dwfn rhwng MoelIwrch Isa ar Bryn yn Nebo
Tyllau mawr yn y ffordd rhwng Ty’n Pant a Tai Hirion Siloam
Tyllau yn y ffordd wrth Cilcenus ar y ffordd am Capel Garmon
Tarmac wedi codi ar y ffordd wrth Tyddyn Iolyn Capel garmon
Wal wedi dod i lawr allt Nant y Coed Capel Garmon wrth Nant Isaf

Dyddiad y pwyllgor nesa Ionawr 20fed yn Capel Garmon am 7 o’r gloch

 

Newyddion

Cwblhau'r Archwiliad 2025 a 2026

Mae’r archwiliad o gyfrifon Bro Garmon ar gyfer y blynyddoedd a ddaeth i ben 31 Mawrth 2025 a 2026 wedi’i gwblhau.

Adroddiadau Blynyddol

Adroddiadau blynyddol Bro Garmon.

Rhybudd Cyhoeddus - Sedd Gwag

Cyngor Cymuned Bro Garmon – ward Capel Garmon a Melin-y-Coed.

Cofnodion Diwetha

Mawrth 2026

Cofnodion Mawrth 2026

Ionawr 2026

Cofnodion Ionawr 2026

Tachwedd 2025

Cofnodion Tachwedd 2025